P-05-1035 Dylid caniatáu i bartneriaid genedigaeth fod yn bresennol adeg sganiau, dechrau esgor, yn ystod yr enedigaeth ac ar ôl yr enedigaeth
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Hannah Albrighton, ar ôl casglu cyfanswm o 7,326 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Oherwydd COVID-19, mae cyfyngiadau mewn llawer o ysbytai ar bresenoldeb partneriaid genedigaeth ar gyfer sganiau, esgor a genedigaeth.
Nid yw’r pwnc hwn wedi cael ei adolygu rhyw lawer, os o gwbl.
Mae'n ymddangos yn annheg ac yn sarhad ar deuluoedd newydd eu bod yn cael sefyll 2 fetr oddi wrth ddieithriaid llwyr ar y traeth neu mewn siop hyd yn oed, ond nid ydynt yn cael partner na phartner genedigaeth yn bresennol i rannu profiadau tro cyntaf megis gweld sgan, clywed calon y babi, esgor a genedigaeth.
Mae angen i hyn newid.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Castell-nedd
· Gorllewin De Cymru